Introducing Glimmers 
Cyflwyno Glimmers 

Louise Hobson, SWAY Curator \ Curadur SWAY 

Barry experiences one of our planet’s largest tidal ranges and as both a resident and a curator, I’ve become infatuated with what it means to live in entanglement with these tides. How do they shape the way we live here - how we learn, dream and imagine? SWAY emerges from this curiosity: an ongoing invitation to artists, curators and writers to think and make from a town that has unfixed, fluid edges. 

Glimmers is the companion to a year of conversations, gathering contributions from artist Beverley Bennett, writer Sophie K Rosa, artist Eduardo Navarro, curator Taru Elfving, Fieldwork Studio and artist Phoebe Davies, artist Gweni Llwyd, philosopher Marteinn Sindri Jónsson, artist and educator Sophie Mak-Schram, alternative living collective member Julius Thinnes, and artist and writer Kandace Siobhan Walker. Artist visits unfolded in dialogue with local residents — Alison, Linda, Karen, Jo, Rhian, Blanche, Marilyn and Sarah — swimmers with the Watchtower Waders — as well as Gwyn Nelson, Programme Manager of Wales Coastal Monitoring Centre and Joel Gill, Lecturer in Sustainable Geoscience at Cardiff University’s School of Earth and Environmental Sciences.

We began with local tidal rhythms. In a place that’s never still, we were soon carried into a multitude of localities, times, fictions and realities. 

Reflecting on the essentiality of friendship and community, Beverly Bennett’s a little pocket weaves together personal narrative with fragments of conversation and filming with the Watchtower Waders. Gweni Llwyd delves into the speculation of geology, wandering across 130 million years through drawings, images and text. Sophie K Rosa’s Home Soon is a story of alienation, motherhood and madness, exploring how we care for others while living amid a society where care is tragically scarce. Eduardo Navarro shares five speculative drawings which transform the rides of Barry Island Pleasure Park to reimagine political structures through oceanic fairground games. Kandace Siobhan Walker’s short story King Tide examines love and loss, where a father’s grief is carried out to sea in search of the ghost of his daughter.

In search of resonances, Glimmers draws together fragments of thinking: Taru Elfing on nurturing site-sensitive enquiries; extracts from Phoebe Davies’ mapping process which asks how we might learn with the expanded ideas of time found in agri-cultural processes; and reflections from Marteinn Sindri Jónsson, Sophie Mak-Schram and Julius Thinnes thinking through ideas of place-(un)making and community building.

In tracing connections between the conversations, stories, images and drawings brought together in Glimmers, I find myself thinking about the relationships we grow with, forget, long for, lose and dream up — the bonds that carry us through all that life holds. Here, fact and fiction merge. Ideas stretch from singular lives to planetary rhythms, offering ways to imagine from within a place — for the present we share, and our potential futures.

For updates on how to pick up a copy, please visit SWAY’s instagram account. 

Mae’r Barri yn profi un o ystodau llanw mwyaf ein planed ac fel preswylydd a churadur, rydw i wedi fy swyno’n llwyr gan yr hyn y mae'n ei olygu i fyw ar y cyd â'r llanw. Sut mae’r llanw’n siapio'r ffordd rydyn ni'n byw yma - sut rydyn ni'n dysgu, breuddwydio a dychmygu? Mae SWAY yn deillio o'r chwilfrydedd hwn: gwahoddiad parhaus i artistiaid, curaduron ac awduron i feddwl a chreu gan dref â’i hymylon hylifol heb ffiniau. 

Mae Glimmers yn gydymaith i flwyddyn o sgyrsiau, gan gasglu cyfraniadau gan yr artist Beverley Bennett, yr awdur Sophie K Rosa, yr artist Eduardo Navarro, y curadur Taru Elfving, Fieldwork Studio a'r artist Phoebe Davies, yr artist Gweni Llwyd, yr athronydd Marteinn Sindri Jónsson, yr artist a'r addysgwr Sophie Mak-Schram, yr aelod o'r gydweithfa byw amgen Julius Thinnes, a'r artist a'r awdur Kandace Siobhan Walker. Datblygodd ymweliadau’r artistiaid mewn deialog â thrigolion lleol — Alison, Linda, Karen, Jo, Rhian, Blanche, Marilyn a Sarah — nofwyr gyda'r Watchtower Waders — yn ogystal â Gwyn Nelson, Rheolwr Rhaglen Canolfan Monitro Arfordir Cymru a Joel Gill, Darlithydd mewn Geowyddoniaeth Gynaliadwy yn Ysgol Gwyddorau Daear a'r Amgylchedd Prifysgol Caerdydd. 

Fe ddechreuon ni gyda rhythmau’r llanw lleol. Mewn lle nad yw byth yn llonydd, yn fuan iawn roedden ni’n cael ein tywys i lu o leoliadau, amseroedd, ffuglennau a realiti. 

Gan fyfyrio ar natur hanfodol cyfeillgarwch a chymuned, mae a little pocket gan Beverly Bennett yn plethu ynghyd naratif personol a darnau o sgwrs a ffilm gyda'r Watchtower Waders. Mae Gweni Llwyd yn ymchwilio i gyfrinachau daeareg, gan grwydro dros 130 miliwn o flynyddoedd drwy gyfrwng lluniau, delweddau a thestun. Mae Home Soon gan Sophie K Rosa yn stori am ddieithriad, mamolaeth a gwallgofrwydd, sy'n archwilio sut rydyn ni'n gofalu am eraill tra'n byw yng nghanol cymdeithas lle mae gofal yn hynod brin. Mae Eduardo Navarro yn rhannu pum darlun myfyrgar sy'n trawsnewid reidiau Parc Pleser Ynys y Barri i ailddychmygu strwythurau gwleidyddol drwy gemau ffair ar thema gefnforol. Mae stori fer Kandace Siobhan Walker, King Tide, yn archwilio cariad a cholled, lle mae galar tad yn cael ei gario i'r môr i chwilio am ysbryd ei ferch.

Wrth chwilio am gyseiniau, mae Glimmers yn dwyn ynghyd darnau o feddwl: Taru Elfing ar feithrin ymholiadau sy'n sensitif i'r safle; darnau o broses fapio Phoebe Davies sy'n gofyn sut y gallem ddysgu gyda'r syniadau estynedig o amser a geir mewn prosesau amaeth-ddiwylliannol; a myfyrdodau gan Marteinn Sindri Jónsson, Sophie Mak-Schram a Julius Thinnes yn ystyried syniadau o (ddad)wneud ac adeiladu cymunedol.

Wrth olrhain y cysylltiadau rhwng y sgyrsiau, y straeon, y delweddau a'r darluniau a ddaeth at ei gilydd yn Glimmers, rwy'n meddwl am bob perthynas rydyn ni'n tyfu gyda nhw, yn eu hanghofio, yn hiraethu amdanynt, yn eu colli ac yn eu creu yn ein breuddwydion - y rhwymau sy'n ein cynnal drwy bopeth a ddaw i’n rhan. Yma, mae ffaith a ffuglen yn cyfuno. Mae syniadau'n ymestyn o fywydau unigol i rythmau planedol, gan gynnig ffyrdd o ddychmygu - ar gyfer y presennol rydyn ni'n ei rannu, a'n dyfodol posibl.

Am ddiweddariadau ar sut i gael gafael mewn copi, ewch i gyfrif instagram SWAY.